Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion newydd i gyfuno rhai o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Bellach mae ymgynghoriad wedi’i lansio gan y Llywodraeth, i bapur gwyrdd sydd yn cynnig creu deg o “gynghorau sy’n gryfach a’n fwy eu maint”.

Dan y cynlluniau, fe allai Ynys Môn a Gwynedd gael eu huno, yn ogystal â Cheredigion, Sir Benfro, a Sir Gaerfyrddin. Powys yw’r unig sir na fyddai’n cael eu heffeithio.

Ac yn y papur mae tri opsiwn uno yn cael eu cynnig:

  • uno gwirfoddol;
  • uno fesul cam gyda’r cynghorau yn uno ar adegau gwahanol;
  • a “rhaglen uno gynhwysfawr”.

Pa gynghorau fyddai’n uno?

  • Ynys Môn a Gwynedd
  • Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
  • Conwy a Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint a Wrecsam
  • Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
  • Morgannwg a Chaerdydd
  • Casnewydd a Chaerffili
  • Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy
  • Powys (yn aros yr un fath)

“Awdurdodau lleol cryf”

“Mae Cymru angen awdurdodau lleol cryf ac effeithiol, sydd wedi’u grymuso ac yn gallu gwrthsefyll cyni cyllidol parhaus, ac mae angen datblygu strwythurau lleol democrataidd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies.

“Dydw i ddim yn credu y gall ein hawdurdodau lleol gyflawni’r rôl hon yn llawn ar eu ffurf bresennol, ac rwy’n gwybod bod eraill o’r un farn.”