Mae gweddillion corff wedi eu darganfod gan heddlu mewn tŷ yn Aberaeron.

Fe gafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw yno ddydd Llun yr wythnos ddiwethaf (Mawrth 12) yn sgil adroddiadau am gyflwr mam a merch o’r dref.

Yn sgil archwilio’r ty, fe gafodd gweddillion corff eu darganfod ac fe gafodd dynes arall ei chludo i’r ysbyty.

Does dim esboniad gan yr heddlu am y farwolaeth ar hyn o bryd. Mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu.