Nid oes digon yn cael ei wneud i herio rhoi gormod o dabledi ar bresgripsiwn yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae Aelodau Cynulliad yn dweud eu bod nhw’n pryderu am y cynnydd o 46% sydd wedi bod yn y nifer o eitemau presgripsiwn dros y deng mlynedd diwethaf.

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod cymaint â hanner y derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gleifion sy’n cymryd y cyffuriau anghywir neu ddogn anghywir.

“Mae mater rheoli meddyginiaethau yn un sy’n berthnasol i bawb, o feddygon teulu, staff meddygol mewn ysbytai a fferyllwyr i gleifion,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Nick Ramsay.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau na chaiff meddyginiaethau eu gwastraffu neu eu gwaredu’n ddiangen.

“Mae pawb ar y pwyllgor wedi cael profiadau o berthnasau, ffrindiau neu etholwyr sy’n diweddu gyda chypyrddau’n llawn meddyginiaethau a’r anawsterau o dynnu eitemau allan o bresgripsiynau ailadroddus,” meddai wedyn.

Argymhellion 

Mae rhestr o argymhellion y pwyllgor yn cynnwys galwad i fyrddau iechyd ddatblygu ymgyrchoedd i godi proffil rheoli meddyginiaethau, a gwneud mwy o ddefnydd o fferyllwyr i gynghori cleifion ar eu hanghenion cyffuriau.

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn a byddwn yn cymryd amser i ystyried ei argymhellion,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n disgwyl i bob gweithiwr iechyd proffesiynol sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu rhagnodi a’u dosbarthu’n gyfrifol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a lleihau gwastraff.”