Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd Neil McEvoy yn cael ei wahardd o’r blaid am gyfnod o flwyddyn a hanner.

Daw hyn wedi i Banel Gwrandawiad y blaid ddod i’r casgliad bod sail i dair o bedair cŵyn yn erbyn yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru.

Yn ôl Plaid Cymru, bu i Neil McEvoy “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid” ac maen nhw’n honni iddo weithredu mewn modd sydd yn “niweidiol neu a allai fod yn niweidiol” i’w henw da.

O ran ei ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru 2017, mae’r blaid wedi barnu’r Aelod Cynulliad yn euog o  “ymddygiad… sydd yn codi dychryn, aflonyddu neu sy’n achosi loes neu ddadrithiad ymysg aelodau a/neu staff y Blaid”.

Mae’r blaid yn honni i’r gwaharddiad “adlewyrchu difrifoldeb yr achosion a gyflwynwyd i’r Panel”. Bydd modd iddo apelio’n erbyn y penderfyniad gyda chais ffurfiol i’r blaid o fewn saith diwrnod.

Ymateb Neil McEvoy

Mae Neil McEvoy wedi ymateb i’r cyhoeddiad mewn datganiad trwy nodi ei fod wedi’i ddiarddel am gael ei “groesawu mewn cynhadledd” ac am beidio â chaniatáu i Gadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones, newid ei araith mewn cynhadledd.

Mae’n dweud y bydd yn apelio’n erbyn y “penderfyniad gwarthus hwn” a bydd ei gyfarfod ymylol yn ystod cynhadledd y Blaid y penwythnos hwn, yn mynd rhagddo er gwaetha’r cyhoeddiad.

Yn ogystal, mae’n honni bod ganddo dystiolaeth bod y Cadeirydd wedi dechrau’r ymchwiliad “cyn derbyn unrhyw gwynion ysgrifenedig” gan alw hyn yn “gamdriniaeth anghredadwy o broses”.

“Cwbwl ddiffygiol”

“Mae’r ymchwiliad honedig hwn wedi bod yn gwbwl ddiffygiol o’r cychwyn cyntaf,” meddai Neil McEvoy.

“Ni chafwyd unrhyw broses ddyledus na chyfiawnder naturiol, dim ond ymdrech barhaus gan lobïwyr i fy nhanseilio. Ni chafodd y cwynion eu trin yn unol â rheolau sefydlog y blaid ei hun.

“Mae gorfod aros dros flwyddyn ers i’r cwynion gael eu gwneud yn annerbyniol,” meddai wedyn.

“Nid oes unrhyw ddyletswydd o ofal wedi ei dangos tuag ata’ inac ychwaith st fy nheulu. Mae fy hawliau dynol wedi cael eu tramgwyddo’n ddifrifol.

“Ni chaniatawyd imi hyd yn oed gael cynrychiolaeth gyfreithiol.

“Nid aelodau cyffredin a gyflwynodd y cwynion, ac fe fydd yn sioc i aelodau llawr gwlad y Blaid wybod pam yr wyf wedi fy niarddel.”

“Gwleidyddiaeth trwy gŵyn”

Gan atseinio neges gafodd ei bostio ganddo ar Twitter ddydd Iau (Mawrth 15) mae hefyd yn dweud bod angen i “wleidyddiaeth trwy gŵyn ddod i ben”.

“Mae gen i gymaint o gefnogaeth, fel y dangosir yn y blwch pleidleisio,” meddai. “Mae hynny am fod pobol eisiau math newydd o wleidyddiaeth.

“Rydym eisiau Cymru hyderus a all sefyll ar ei thraed ei hun. Gwirionedd, gonestrwydd a chyfiawnder naturiol yw’r Blaid yr wyf yn ei hadnabod, a rhaid i ni ddychwelyd at hynny.

“Mae’n rhaid i wleidyddiaeth trwy gŵyn ddod i ben. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â syniadau, ac nid cwyno diddiwedd mewn ymgais i dawelu pobol.”