Mae gweithwyr yng Nghymru yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser dan do yn ystod wythnos arferol o waith, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) mae 64% o weithwyr yn treulio dim ond dwy awr y dydd tu allan.

Er hyn, mae’n debyg bod pobol Cymru yn cydnabod nad ydyn nhw’n treulio digon o amser tu allan, gyda 61% yn pryderu nad ydyn nhw’n cael digon o awyr iach.

Daw cyhoeddiad yr ystadegau wrth i’r BHF baratoi ar gyfer digwyddiad beicio y byddan nhw’n cynnal ym mis Mehefin – ‘Taith feicio Llundain i Brighton’.

Gaeafgysgu

“Rydym ni gyd yn euog o aeafgysgu tros fisoedd y gaeaf,” meddai Elizabeth Track, trefnydd y digwyddiad beicio.

“Ond, yn awr, wrth i’r dyddiau dyfu’n hirach ac wrth i’r tymheredd godi, dyma’r cyfle perffaith i neidio ar gefn beic a chymryd mantais o’r awyr iach.”