Fe fydd gŵyl arbennig yn cael ei chynnal yn Abertawe ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth o gangen leol o Yes Cymru, mudiad sy’n galw am annibyniaeth i Gymru.

Bydd FfrinjFfest yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tawe, canolfan Gymraeg Abertawe o 1 o’r gloch ymlaen, a’r ŵyl yn gyfle i ganghennau lleol ddod at ei gilydd i gymdeithasu ac i drafod y ffordd ymlaen i’r ymgyrch.

Fe fydd gan nifer o ganghennau stondinau yn ystod y prynhawn, lle bydd y ddawnswraig Eddie Ladd yn cynnal gweithdy dawns ar thema annibyniaeth.

Anghynhadledd

Yn ystod y prynhawn, fe fydd cyfres o sgyrsiau yn cael eu cynnal ar hanes ac economi Cymru, a’r rhan honno o’r diwrnod yn cael ei galw’n ‘anghynhadledd’ neu, yn ôl y trefnwyr, “cynhadledd nad yw’n gynhadledd ond yn rhywbeth llawer llai ffurfiol i gynnig a rhannu syniadau”.

Fe fydd Byron Huws, un o aelodau Yes Cymru Abertawe, yn dechrau’r digwyddiad gyda chyflwyniad fideo ar ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Ymhlith y siaradwyr mae Dr John Ball, sy’n ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Abertawe; Eifion Thomas o Yes Cymru Llanelli; a Christine Moore o Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru a Yes Cymru Pen-y-bont.

Fe fydd nifer o gerddorion lleol yn perfformio yn ystod y digwyddiad, cyn i’r band lleol Salvador Sanchez gloi’r digwyddiad.

‘Cyfarfod i bawb’

Dywedodd y trefnwyr wrth golwg360: “Mae hwn yn ddigwyddiad i bawb ar lawr gwlad sydd ar dân eisiau annibyniaeth i Gymru ac sydd â diddordeb ym mudiad Yes Cymru.

“Mae croeso i aelodau newydd neu aelodau presennol o ganghennau Yes Cymru, lle bydd cyfle i glywed a rhannu syniadau am Gymru annibynnol gyda phobol eraill.

“Mae croeso arbennig hefyd i unrhyw un sydd yn bwriadu sefydlu cangen newydd neu sydd am ymuno â Yes Cymru am y tro cyntaf. Fe gewch chi drafod a rhannu syniadau mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.”

Cyngor i ganghennau newydd

Mae gan drefnwyr FfrinjFfest gyngor i unrhyw unigolion sy’n awyddus i sefydlu cangen newydd o Yes Cymru.

“Os ydych chi’n meddwl am sefydlu grŵp yn eich ardal leol, ewch ati! Fe gewch chi gefnogaeth gan bobol eraill. Byddem yn hapus i drefnu stondin ar eich cyfer chi yn FfrinjFfest os ydych chi am gynnal lansiad yno.

“Y cyfan sydd ei angen yw un neu ragor o bobol i fod yn gyfrifol am stondin a siarad â phobol.

“Ai dim ond chi sydd yn eich grŵp? Wel, dyna sut mae grwpiau’n cael eu sefydlu weithiau. Dyma gyfle i chi dyfu eich grŵp. Ry’n ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.”