Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am rew yng Nghymru nos Sul.

Mae’r rhybudd mewn grym rhwng canol nos a 10 o’r gloch fore Llun.

Yn ôl y rhybudd, fe fydd rhew ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu graeanu, allai arwain at “ddamweiniau ac anafiadau”.

Fe fydd y tymheredd yn gostwng islaw’r rhewbwynt, a’r eira’n troi’n rhew mewn rhai mannau deheuol.