Mae un o brif swyddogion y Ffermwyr Ifanc yng Ngwynedd yn dweud bydd angen “ailstrwythuro” sut mae’r mudiad yn gwario ei arian, ar ôl i Gyngor Sir Gwynedd benderfynu torri ei nawdd yn llwyr.

Ddechrau’r wythnos (dydd Mawrth, Mawrth 13), fe benderfynodd cabinet y Cyngor dorri’r grant blynyddol o £20,000 i Glybiau Ffermwyr Ifanc Meirionydd, ynghyd â’r grant o £16,000 i ffederasiwn Eryri.

Mae Dafydd Jones, Cadeirydd Mudiad Ffermwyr Ifanc Meirionydd, yn “siomedig” gyda’r penderfyniad hwn, ac yn dweud y bydd yn rhaid ystyried “opsiynau eraill” er mwyn diogelu’r mudiad ar gyfer y dyfodol.

“Mae cael toriad o £20,000 ddim yn lot i nifer falle,” meddai wrth golwg360. “Ond i ni ym Meirionnydd, sy’n ardal llai diwydiannol, mae yna lai o fusnesau y medrwn ni droi at, ac mae’r rheiny ryden ni’n ddibynnol arnyn nhw’n barod yn cefnogi ni mor dda.

“Mae’n andros o beth inni fynd allan i ofyn am fwy gan y rheiny. Ond yn sicr, yn awr bydd rhaid edrych ar ailstrwythuro oriau gwaith o bosib.

“A hwnnw ydy’r sialens ydi parhau i gynnig i’n haelodau be ydan ni’n ei gynnig…”

Codi tâl aelodaeth?

Un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried gan ffederasiwn Meirionnydd yw codi’r tâl aelodaeth flynyddol, gyda’r gost i aelodau eleni yn £25 yr un.

Er hyn, mae Dafydd Jones yn pryderu y bydd y cam hwn yn cael effaith negyddol ar yr aelodau a’u teuluoedd.

“Dw i’n gwybod yna lawer o siroedd sydd lot uwch na hynny,” meddai eto. “Ond yma ym Meirionnydd ´da chi mewn ardal dlotach, ac mae yna nifer o aelodau ifanc sy’n dod o’r un teulu – tri, pedwar i bump weithiau – ac mae’n gost enfawr i deuluoedd, chware teg.

Tendro am waith?

“Opsiwn” arall sy’n cael ei ystyried, meddai, yw tendro am waith i’r Cyngor Sir, gan gynnig cynnal cyrsiau addysgiadol i bobol ifanc y sir ar bynciau megis iechyd meddwl ac addysg rhyw.

“Mae hynny’n opsiwn bod ni’n mynd rownd gwahanol ardaloedd i siarad â phobol ifanc am y pethau yma.

“Maen nhw’n annog ni ers talwm y dylwn ni fod yn ystyried hynny. Ond y sialens ydy, does yna ddim canllawiau o’r fath wedi cael eu gwneud ar hyn o byd – be neu ba waith fydd angen ei wneud yn union, ac am ba hyd.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â ffederasiwn Eryri am ymateb.

Dyma glip sain o Dafydd Jones yn sôn yn llawnach am sut fydd clybiau Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn ymdopi â’r toriad…