Yr heddlu yn apelio am wybodaeth wedi’i gwrthdrawia
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn y Fenni nos Iau, Mawrth 15.
Am tua 5:10 yr hwyr, fe aeth car oedd yn cael ei yrru gan ddynes 72 oed lleol i mewn i gerddwraig 62 oed, oedd hefyd o’r ardal, a’i lladd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad gyda Subaru Impreza arian y tu allan i Siop Gymunedol y Fenni ar Heol Crib y Bryn yn y dref.
Cafodd y ddynes oedd yn gyrru ei harestio a’i rhyddhau dan ymchwiliad.