Mae disgwyl tywydd garw i Gymru dros y penwythnos gydag eira, rhew a gwyntoedd cryfion ar y ffordd.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o wynt i’r gogledd-orllewin a’r canolbarth rhwng pedwar y bore dydd Sadwrn a thri o’r gloch y p’nawn a hyrddiadau o 60 milltir yr awr.
Ac mae rhybudd arall mewn grym drwy gydol y dydd am eira a rhew yn y gogledd-ddwyrain a’r canolbarth.
Dydd Sul
Dydd Sul, mae disgwyl i’r eira gyrraedd y de-ddwyrain – ond does dim disgwyl iddo fod cynddrwg â Storm Emma a fu’n creu trafferth ddechrau’r mis.
Ond mi fydd hi’n ddifrifol o oer drwy gydol y penwythnos a gallai rhai cymunedau gwledig golli eu cyflenwadau trydan.