Mae dynes fusnes sy’n berchen ar siop yng Nghaerfyrddin yn dweud mai “rwtsh llwyr” yw’r honiadau ei bod yn wrth-Gymreig.

Roedd Joan Willson wedi dweud ar ei chyfrif Twitter:  “We English here in Wales are holding the Welsh Language at bay”, ac wedi cwyno am gynlluniau i ddysgu Cymraeg i blant yng Nghroesoswallt.

Arweiniodd hynny at lawer o adolygiadau 1* ar dudalen Facebook y siop frodwaith y mae’n berchen arni gyda’i chwaer, Pat, o’r enw Busy Ladies Boutique.

Mae pobol wedi cyhuddo perchnogion y siop o fod yn wrth-Gymreig a rhai wedi dweud na fyddan nhw’n siopa yno.

“Bygythiadau”

Ond mae Joan Willson yn mynnu nad yw yn erbyn y Gymraeg ac mae’n dweud ei bod wedi cysylltu â’r heddlu yn sgil “bygythiadau” y mae wedi eu derbyn.

Gwrthododd ddweud wrth golwg360 beth oedd natur y bygythiadau hynny.

“Dydw i ddim yn wrth-Gymreig… cafodd fy sylwadau eu darllen allan o’u cyd-destun,” meddai, gan ychwanegu bod pobol wedi bod yn “dweud celwydd” wrth ysgrifennu’r adolygiadau negyddol.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’w sylwadau drwy ddweud y bydd aelodau lleol yn parhau i gwyno i’r siop ar-lein.