Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ystyried cais cynllunio i greu “pentref llesiant” cyntaf Cymru ger Llanelli.
Byddai’r prosiect gwerth £200m yn dod â chyfleusterau chwaraeon a hamdden a gwasanaethau iechyd a lles newydd i’r ardal.
Y nod yw creu 2,000 o swyddi “o ansawdd” dros gyfnod o 15 mlynedd a chyfrannu £467 miliwn i’r economi leol.
Os bydd yn cael caniatâd, mae disgwyl i waith ar y pentref newydd ger Llynnoedd Delta, tafliad carreg oddi wrth Lwybr yr Arfordir, ddechrau diwedd y flwyddyn.
Y gobaith yw agor cam cyntaf y prosiect erbyn 2021.
Y cynllun
Mae’r cynllun yn ffordd newydd o edrych ar ofal iechyd a gofal cymunedol ac yn cynnwys:
- Sefydliad Gwyddorau Bywyd gyda labordy a chlinig a mannau i fusnesau newydd ddechrau
- “Hwb Lles” gyda chanolfan chwaraeon a hamdden newydd
- Canolfan Iechyd a Lles gyda chyfleusterau addysg a hyfforddiant
- Gwesty Llesiant
- Pentref Byw Gyda Chymorth
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, ar y cyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe. Mae’n rhan o Ranbarth Dinesig Bae Abertawe.
“Mae cyflwyno cais cynllunio amlinellol yn gam arall ymlaen ar gyfer prosiect cyffrous, mentrus ac arloesol a fydd yn sicrhau bod Llanelli yn rhan ganolog o arloesi ym maes gwyddor bywyd a llesiant yn fyd-eang,” meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd y Cyngor.
“Dangosodd digwyddiad galw heibio diweddar yn Llanelli fod mwy na 90% o bobl naill ai’n gefnogol neu’n gefnogol iawn i’r prosiect, sy’n hynod o galonogol oherwydd rydym yn benderfynol o gyflawni’r datblygiad hwn er eu budd nhw.
“Bydd cynaliadwyedd yn allweddol i’r datblygiad, ynghyd â dylunio sensitif sy’n sicrhau bod adeiladau newydd yn gydnaws â chymeriad yr ardal gyfagos.”