Mae Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys yn dweud bod angen addysg Gymraeg mewn tref yn Lloegr.

Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan mae Croesoswallt, y dref yn Sir Amwythig sydd rhyw bum milltir o’r ffin â Chymru, “yn llawer mwy Cymreig fel tref ac ardal nag ydy, er enghraifft, rhannau o Bowys sydd o fewn ffiniau Cymru… [mae] nifer fawr [yno] o dras Gymreig”.

Mae Elwyn Vaughan am weld addysg feithrin yn cael ei datblygu yn y dref, a fyddai maes o law yn arwain at addysg Gymraeg yn yr oed cynradd, gyda’r disgyblion rheiny wedyn yn mynychu Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

Dyma ysgol sydd rhyw 15 milltir o Groesoswallt ac yn cynnig addysg ddwyieithog i tua 1,000 o blant, gyda thua chwarter y rheiny yn teithio dros y ffin o Sir Amwythig.

“Mae’r mudiad meithrin wedi dweud eu bod nhw yn fodlon sefydlu cangen [yng Nghroesoswallt], os ydy’r cyngor lleol yn fodlon cydweithio efo nhw,” meddai Elwyn Vaughan.

“Ac wrth gwrs mae yna draddodiad o bobol ifanc o’r ardal yna yn mynd i Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

“Felly [drwy sefydlu addysg gynradd yng Nghroesoswallt] fyddech chi’n rhoi’r sgiliau iddyn nhw allu wneud y mwyaf o’r addysg fydden nhw yn gallu ei chael yn ddiweddarach yn eu hoes.”

Byddai medru siarad Cymraeg yn helpu ieuenctid y dref i gael gwaith yng Nghymru, yn ôl Elwyn Vaughan.

“Rydw i’n pwysleisio y byddai [medru’r Gymraeg] yn arf economaidd, oherwydd mae Croesoswallt ar stepen drws Wrecsam a Phowys, sydd eisiau pobol â sgiliau yn y Gymraeg.”

Ymateb Cyngor Sir Amwythig

Dywedodd Cyngor Sir Amwythig mai mater i Brifathrawon a Llywodraethwyr ysgolion Croesoswallt yw’r addysg yno.

“Mae gofyn i ysgolion dan reolaeth yr awdurdod lleol yng Nghroesoswallt, fel yng ngweddill Sir Amwythig a Lloegr, ddysgu’r cwricwlwm cenedlaethol,” meddai’r Cynghorydd Nick Bardlsey, yr aelod o Gabinet Cyngor Sir Amwythig sy’n gyfrifol am Wasanaethau Plant ac Addysg.

“Mae gan Academïau fwy o ryddid o ran cynnwys y cwricwlwm. Bydd arweinwyr y ddau fath o ysgol yn awyddus i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sydd yn hyrwyddo’r safonau uchaf ac yn adlewyrchu’r cyd-destun yn lleol.

“Cyfrifoldeb Prifathrawon a Llywodraethwyr yw penderfynu’r cwricwlwm sy’n cael ei ddarparu ganddyn nhw i’r disgyblion.”

Mwy am y stori hon yng nghylchgrawn Golwg.