Ar ôl cyfarfod am rai oriau neithiwr, nid yw panel disgyblu Plaid Cymru wedi dod i benderfyniad eto ar dynged Neil McEvoy.

Dywedodd llefarydd y Blaid heddiw fod “trafodaethau” yn parhau ac na fydd sylw pellach yn y cyfamser.

Bu gwrandawiad neithiwr ar ddyfodol yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru o fewn Plaid Cymru, sydd eisoes wedi’i ddiarddel o grŵp y Blaid yn y Cynulliad.

Mae golwg360 yn deall bod y gwrandawiad wedi ystyried cyfres o gwynion a ddaeth i law’r blaid y llynedd yn erbyn Neil McEvoy.

“Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt. Ni allwn wneud sylw pellach ar y pwynt yma,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.

Hyd yma, mae Neil McEvoy wedi gwrthod gwneud sylw ond mae wedi postio neges ar ei dudalen Twitter yn dweud bod y “norm o gwyno” ym myd gwleidyddol Cymru yn “annemocrataidd”.

“Gwiriondeb llwyr”

Daw’r achos wythnos yn unig cyn i Blaid Cymru gwrdd yn Llangollen ar gyfer ei chynhadledd Wanwyn.

Yn ôl un sylwebydd gwleidyddol mae’r Blaid wedi bod yn “wirion” wrth gynnal y gwrandawiad mor agos at y gynhadledd.

“Yn sicr, dydy o ddim y peth callaf i gael achos disgyblu o rywun mor amlwg o flaen eich cynhadledd eich hun,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Mae’r sylw i gyd nawr yn mynd i fynd arno yn y gynhadledd, bydd McEvoy yn troi fyny a beth fydd o’n dweud os ydy o’n troi fyny… dyna’r stori, dim Leanne Wood fydd y stori yn y gynhadledd, ond Neil McEvoy.

“Gwiriondeb llwyr.”