Mae casgliad o fanion gafodd eu darganfod gan aelodau’r cyhoedd, wedi cael eu dynodi’n drysor gan Grwner dros Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae pob un o’r gwrthrychau yn dyddio o 800CC i’r 16eg ganrif, ac yn ôl Amgueddfa Cymru, mi fyddan nhw i gyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o “agweddau llai hysbys” o hanes Cymru.
Cafodd y gwrthrychau eu darganfod â datgelyddion metel (metal detectors) a chafodd ambell un eu claddu yn fwriadol, yn ôl arbenigwyr.
Bydd y manion i gyd yn cael eu trosglwyddo i amgueddfeydd, gyda chymorth arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Y casgliad
- Darnau o fwyeill Oes Efydd: wedi’u darganfod yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin
- Pump o geiniogau Rhufeinig: wedi’u darganfod yn Angle, Sir Benfro
- Breichled arian Lychlynnaidd: wedi’i darganfod yn Jeffreyston Sir Benfro
- Matrics sêl arian o’r Canol Oesoedd: wedi’i ddarganfod yn Llandudoch, Sir Benfro
- Modrwy arian addurniadol o’r 16eg ganrif: wedi’i darganfod ym Maenorbŷr, Sir Benfro
- Amgarn gwain arian ôl-ganoloesol: wedi’i ddarganfod yng Nghamros, Sir Benfro
Bwyeill
O’r casgliad yma mae’n debyg mai’r bwyeill yw’r gwrthrychau hynaf, gydag arbenigwyr yn tybio iddyn nhw gael eu claddu fel rhan o ddefod 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
“Claddwyd y [gelc] ger cyffordd afonydd Gwendraeth, Tywi a’r Taf ble mae’r tair yn llifo i fae Caerfyrddin,” meddai Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru.
“Mae’n awgrymu bod y lleoliad hwn gyda’i afonydd a’i arfordir yn hynod bwysig i’r cymunedau yma yn yr Oes Efydd.”