Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn 22 oed o Lerpwl ar amheuaeth o geisio llofruddio, yn dilyn digwydd tu allan i fflatiau Waterside yng Nghaergybi am 11.50 ar nos Fawrth y 6ed o Fawrth.

Yn ystod yr ymosodiad fe gafodd dyn 28 lleol ei anafu yn ddifrifol.

Fe gafodd y dyn o Lerpwl ei arestio ddydd Mercher yn ardal Sefton, Glannau Merswy, ac mae hefyd wedi ei arestio mewn perthynas â thrais llai difrifol yng Nghaergybi am 11 y bore ar Chwefror 21.

Mae’r Ditectif Arolygydd Brian Kearney o CID Caernarfon wedi talu teyrnged i waith y gwasanaethau brys wrth drin y dioddefwr o Gaergybi.

“Oherwydd gwaith gwych y rhai cyntaf i’w drin, y staff nyrsio a meddygol yn Ysbyty Gwynedd, rydw i’n falch o ddweud bod y dioddefwr yn gwella ac nad yw bellach yn yr Uned Gofal Dwys,” meddai.

“Ond mae hi’n hollbwysig ein bod ni yn darganfod pawb oedd ynghlwm â’r ymosodiad hynod dreisgar hwn, ymosodiad direswm sydd, yn ffodus, yn brin iawn yng ngorllewin gogledd Cymru.

“Mae’r dyn 22 oed sydd dan amheuaeth wedi ei holi a’i gyhuddo o godi helynt a dau ymosodiad mewn perthynas â’r digwyddiad ar Chwefror 21.

Bydd y dyn yn mynd ger bron y llysoedd yn Llandudno’r bore yma p byddwn yn gofyn am yr hawl i ddal gafael arno er mwyn ein galluogi i’w holi mewn perthynas â’r ymgais i lofruddio ar y 6ed o Fawrth.

“Ond er bod unigolyn wedi ei arestio, rydym dal angen clywed gan gyn gymaint o dystion ag sy’n bosib, er mwyn casglu’r holl ffeithiau ac adnabod y rhai fu wrthi.

“Felly rydwyf yn apelio eto am wybodaeth gan ein cymunedau yng Nghaergybi, ynghylch y ddau ddigwyddiad, er mwyn ein helpu i sicrhau bod y gogledd yn parhau yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw ym Mhrydain.”

Ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 a dyfynnu RC18028374.