“Cynnig cyfle i bobol ifanc fedru gwneud rhywbeth chwyldroadol yn eu hardal eu hunain” yw nod Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn Sir Fôn.

Ar Fai 18, fe fydd Ieuan Wyn Jones yn camu o’r neilltu ac yn trosglwyddo’r awenau i Pryderi ap Rhisiart, y dyn sydd eisoes yn Rheolwr Prosiect yn M-SParc.

Mae’n dweud ei fod eisiau “cadw’r bobol ifanc gorau” ym Môn, gan eu galluogi i allu dechrau eu busnesau eu hunain. Ond nid “rhwystro brain drain i Gaerdydd” yw’r unig nod, meddai wedyn.

“Rydan ni eisiau cynnig [opsiwn sy’n wahanol] i awdurdodau lleol a swyddi mwy traddodiadol,” meddai Pryderi ap Rhisiart wrth golwg360.

“Rydan ni’n or-ddibynnol ar sector dwristiaid ac awdurdodau lleol. Mi fyddwn ni’n cynnig cyfle i bobol ifanc fedru gwneud rhywbeth chwyldroadol yn eu hardal eu hunain.”

Y weledigaeth

Mae’r safle wedi bod ar agor yn swyddogol ers Mawrth 1 ac, ar hyn o bryd, mae saith cwmni wedi symud i mewn i’r adeilad ar gyrion pentre’r Gaerwen. Yn eu plith y mae cwmnïau sy’n arbenigo â thechnoleg a meddalwedd.

Mae Pryderi ap Rhisiart yn nodi mai’r “weledigaeth yw llenwi’r lle” a’r gobaith yw y bydd 12 cwmni yno erbyn diwedd mis Ebrill – gan olygu bydd dros gant o bobol yn gweithio yno.