Mae athrawes mewn ysgol i blant ag anghenion arbennig ym Mhenarth yn dweud fod yr Athro Stephen Hawking, sydd wedi marw’n 76 oed, “wedi rhoi llais” i’r rhai heb leferydd.

Mae Lisa Rees-Renshaw yn athrawes sy’n ymgynghori ar dechnoleg gynorthwyol yn Ysgol Y Deri, ac fe ddaeth y cyfle i ddau o’i disgyblion yn yr ysgol gynnal e-gyfweliad gyda’r gwyddonydd rai blynyddoedd yn ôl.

Roedd Luke a Joe, meddai wrth golwg360, wedi cael y cyfle i ofyn cwestiwn yr un iddo drwy gyswllt fideo.

Y cwestiynau

“Gofynnodd un o’r disgyblion, Joe, pa ddarganfyddiad allai fod yn bosib yn y dyfodol agos i newid bywydau pobol ag anableddau difrifol a pha gyngor fyddai’n ei roi i fyfyrwyr sy’n wynebu heriau heddiw.”

Ei ateb, meddai Lisa Rees-Renshaw, oedd “ymchwil enynnol” a hynny er mwyn “adnabod a chywiro genynnau sy’n gyfrifol am anableddau”, ac fe eglurodd nad oedd yn “ffansïo” gorfod cael mewnblaniad ar ei ymennydd.

Luke oedd yr ail ddisgybl i gael gofyn cwestiwn, y tro hwn am fydysawd paralel.

‘Ydych chi’n credu bod Luke arall mewn bydysawd paralel?’ oedd ei gwestiwn, ac fe gafodd yr ateb, “Fe fydd Luke arall mewn bydysawd paralel ond fyddwch chi’n methu cyfathrebu â fe”.

‘Ysbrydoliaeth’

Yn ôl Lisa Rees-Renshaw, roedd yr ysgol yn chwilio am bobol adnabyddus i ysbrydoli’r disgyblion ac i ddangos nad oedd yn rhaid i anableddau fod yn rhwystr yn eu bywydau.

Ychwanegodd: “Pan ddechreuon ni chwilio am ffigurau i ysgogi’r disgyblion ac i gysylltu â nhw, doedd neb gwell a allai fod wedi ymateb na Stephen Hawking. Fe gawson ni ateb hefyd gan Simon Fitzmaurice, yr awdur sgriptiau o Iwerddon.

“Fe wnaeth y ddau ysbrydoli’r disgyblion yn llwyr oherwydd eu bod nhw yn yr un sefyllfa â nhw. Maen nhw heb leferydd, mewn cadair olwyn ond yn dal i wneud pethau rhyfeddol, gan wneud i’r disgyblion sylweddoli y gallan nhw fynd ymlaen i wneud pethau rhyfeddol a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobol eraill.”

Cyfraniad Stephen Hawking

Wrth grynhoi ei gyfraniad i’r byd, ychwanegodd Lisa Rees-Renshaw: “Fe greodd yr Athro Stephen Hawking argraff enfawr ar y byd drwy ei waith, ond mae e hefyd wedi creu argraff enfawr ar y disgyblion rydyn ni’n eu cefnogi drwy wneud iddyn nhw sylweddoli y gallan nhw gynnig cymaint i’r byd yma, a bod modd i’w lleisiau gael eu clywed.”