Mae’r RSPA yn rhybuddio ei bod hi’n greulon ac yn anghyfreithlon i ddal anifeiliaid mewn magl, wedi i fochyn daear cael ei ganfod yn sownd mewn un yng Ngheredigion.

Yn ôl yr elusen gwarchod anifeiliaid, fe gafodd yr anifail ei ddarganfod yn fyw mewn magl yn ardal Llanbedr Pont Steffan, ac mae lle i gredu iddo fod yno ers rhai dyddiau.

Roedd darn o ffens hefyd wedi clymu o’i gwmpas, ac ar ôl un o swyddogion ei ryddhau, fe aethpwyd ag ef yn syth at y milfeddyg. Roedd y creadur wedi cael y fath anaf nes mai’r unig opsiwn oedd ei roi i gysgu.

Gwrthwynebu’r magl

Yn ôl y swyddog a ddaeth o hyd i’r mochyn daear, mae’r “digwyddiad hwn yn tanlinellu natur greulon maglau”.

Er ei bod yn gyfreithlon i ffermwyr ddefnyddio maglau, mae’r RSPA yn dweud nad oes ganddyn nhw’r hawl i faglu moch daear.

Er hyn, mae’r elusen yn gwrthwynebu’r defnydd o faglau yn llwyr, gan ei fod yn achosi dioddefaint i anifeiliaid.

Maen nhw’n dweud mai anifeiliaid sydd wedi’u dal yn “anfwriadol” yw’r 40% o’r rheiny sy’n cael eu dal gan faglau.