Fe fydd bwyty poblogaidd yng Nghaernarfon ar gau tan o leiaf ddiweddy mis, wedi i gorff aelod o staff gael ei olchi i’r lan ar draeth ym Môn dros y Sul.

Roedd Jason Lewis, 43, yn gweithio yn Tŷ Coz, a chafodd ei gorff ei ddarganfod ar draeth ger Rhosneigr ddydd Sadwrn (Mawrth 10). Dyw ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol mae Tŷ Coz yn dweud bod colled Jason Lewis wedi gadael “gwagle enfawr” a bod straen y llwyth gwaith hebddo yn “hollol anferthol”.

O ganlyniad i hynny, bydd y bwyty ar gau tan “o leiaf” Mawrth 27, fel bod y busnes yn medru “cael cyfle i ddelio â phethau”. Fydd hi ddim yn bosib i fwcio bwrdd yn Tŷ Coz am gyfnod.

Teyrnged

Mewn neges arall mae’r bwyty wedi talu teyrnged i’w cyn-weithiwr gan ddweud fod marwolaeth Jason Lewis yn “ergyd fawr”.

“Er nad oedden ni ond yn nabod Jason am gyfnod cymharol fyr, gallwn ddweud â llaw ar ein calon nad ydym wedi dod ar draws llawer o bobol yn ein bywydau â chymaint o bethau positif i’w hoffi,” meddai Tŷ Coz.

“Byddai’r byd yn lle llawer gwell efo mwy o bobol fel Jason ynddo. Mae hynny’n gwneud hi cymaint yn anoddach i ddelio â’i ymadawiad cynamserol.

“Fe roddodd Jason gymaint mwy i ni nag y gallwn roi yn ôl, fel ffrind ac fel gweithiwr. Gorffwys mewn hedd, mêt.”

The tragic passing of Jason has left a huge hole here at Ty Coz. We managed to "keep the show on the road" without him…

Posted by Ty Coz Caernarfon on Monday, 12 March 2018