Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau a’u hymdrechion yr wythnos hon, i ddod i gyfaddawd â Chymru a’r Alban tros ddeddf Brexit.
Pwrpas y Mesur Ymadael yw troi cyfraith Ewropeaidd yn gyfraith Brydeinig, ond pryder y llywodraethau datganoledig yw y bydd pwerau’n cael eu cipio oddi wrthyn nhw trwy’r broses.
Mae Downing Street yn mynnu bod y Llywodraeth eisiau dod i gytundeb, ac mae disgwyl i Brif Weinidogion Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig, gwrdd ddydd Mercher (Mawrth 14).
“Mae’r ddeddf yma yn chwarae rôl bwysig iawn yn y broses o gyflawni Brexit llyfn,” meddai llefarydd swyddogol ar ran y Prif Weinidog tros Brydain, Theresa May.
“Rydym yn parhau i weithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn dod i gytundeb. Rydym yn canolbwyntio ar daro bargen – dyna ein bwriad.”
Meysydd polisi
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi enwi 24 maes polisi lle na fydd pwerau’n cael ei ildio i’r llywodraethau datganoledig yn syth – mae’r rhain yn cynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd.
Er hynny mae’r Llywodraeth yn mynnu bydd “y mwyafrif helaeth” o bwerau’r Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i Gaerdydd, Caeredin a Belfast , yn syth wedi Brexit.
Yng Nghymru a’r Alban, mae’r llywodraethau eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth, fel opsiwn wrth gefn os na ddaw cytundeb â Llundain.