Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn y cafwyd hyd i’w gorff ar draeth yn Ynys Môn dros y penwythnos.

Roedd Jason Lewis, 43 oed, wedi bod ar goll o’i gartref yng Nghaernarfon ers dechrau’r wythnos ddiwethaf, cyn i’w gorff gael ei ddarganfod ar draeth Tŷ Croes yn Ynys Môn brynhawn dydd Sadwrn (Mawrth 10).

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Mae teulu Jason Lewis hefyd wedi dweud eu bod dymuno cael llonydd yn ystod y “cyfnod anodd hwn”.