Bydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi cyhoeddi gan fwrdd iechyd yng Nghymru, gyda’r nod o sicrhau “triniaeth urddasol” i bobol drawsrywiol sy’n datblygu dementia.

Cyngor ar sut i ymdrin â materion sensitif fydd y canllawiau, ac mae’n debyg mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r cyntaf yng ngwledydd Prydain i gymryd cam o’r fath.

Cyflwr yw dementia sydd yn dirywio’r cof, ac yn achos pobol drawsrywiol – pobol sydd ddim yn uniaethu â’u rhyw enedigol – mae’n medru cynnig set gwahanol o heriau.

Yn ôl y bwrdd, mae dementia yn medru achosi unigolion i weld eu hunain fel yr oedden nhw cyn derbyn triniaeth newid rhyw, gan achosi dryswch a phryder wrth sylwi ar eu newid corfforol.

Anghenion Seicolegol

Mae Sean Page sydd yn ymgynghori’r bwrdd iechyd tros ddementia, yn dweud y bydd y canllawiau yn galluogi staff i ystyried yr heriau “penodol” yma.

“Er mwyn i ni allu darparu’r gofal gorau posibl i bobl â dementia, mae’n rhaid i ni fod yn barod i ymgysylltu â nhw, i ddarganfod sut gellir cwrdd ag anghenion seicolegol,” meddai.

“Mae hyn yn wir i bawb a effeithir gan ddementia, ond i unigolyn trawsrywiol sydd â dementia, mae’n rhaid ystyried pethau penodol i sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu cwrdd.”