Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn ymweld â Hong Kong a Shanghai yr wythnos hon, gyda’r nod o gryfhau cysylltiadau masnach â Tsieina.

Mae’n debyg mai dyma daith fasnach fwyaf Cymru – i’r rhan yma o’r byd – ers degawd,  ac yn ystod ei ymweliad bydd y gweinidog yn cwrdd â gwleidyddion a darpar fuddsoddwyr.

Yn ymuno ag ef bydd 25 cwmni o Gymru gan gynnwys Aircovers yn Wrecsam, Cradoc’s Savoury Biscuits yn Aberhonddu a Teddington Engineered Solutions yn Llanelli.

Rhwng 2012 a 2017, cynyddodd gwerth allforion Cymru o tua £194 miliwn i £313 miliwn. Yn ôl Ken Skates mae masnachu â gweddill y byd yn “flaenoriaeth”.

“Creu cysylltiadau”                                                                                              

“Mae’n gyfnod heriol lle rydym i gyd yn ceisio manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a mynd i’r afael â heriau a chymhlethdodau Brexit,” meddai Ken Skates.

“Nawr mwy nag erioed, mae’n bwysig inni greu cysylltiadau â Tsieina a’n partneriaid rhyngwladol eraill er mwyn adeiladu economi sy’n gryfach ac yn decach i bawb.

“Mae’r ymweliad yr wythnos hon yn rhan o’n hymdrechion amrywiol i gyflawni hynny.”