Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi ymgynnull yn Ynys Môn fore heddiw (Mawrth 12), er mwyn nodi saith mlynedd ers ffrwydrad adweithydd yn Japan.

Ffrwydrodd yr adweithydd yn atomfa Fukushima Daiichi ym mis Mawrth 2011, wedi i ddaeargryn gradd 9 a swnami daro’r wlad.

Er ymdrechion i reoli’r argyfwng mae’n debyg bod deunydd ymbelydrol ar y safle o hyd, gyda dŵr ymbelydrol yn parhau i lifo oddi yno i’r Môr Tawel.

Mae PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i osod dau adweithydd niwclear ym Môn, ac mi fyddan nhw’n cyfarfod rhwng 8.00 a 9.00 bore dydd Llun wrth Bont Menai ym Mhorthaethwy.