Mae dysgwr Cymraeg wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o Ddewi Sant a’r Gymraeg ledled gwledydd Prydain.

Fel rhan o ymgyrch Michael Elmer, cyn-ddiplomat o Swydd Efrog, aeth ati i sicrhau, gyda chymorth y newyddiadurwr Guto Harri, fod taflenni Cymraeg ar gael yn Eglwys Gadeiriol Westminster – a’r cyfan wedi’i gyfieithu gan gwmni yng Nghaerdydd.

Trefnodd e sawl offeren lle’r oedd modd clywed rhywfaint o Gymraeg, ac fe gafodd gymorth gan Guto Harri i lobïo staff y Cardinal i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg ym mywyd yr Eglwys Gatholig.

Llythyr

Mewn llythyr at y Catholic Times, mae Michael Elmer yn tynnu sylw at erthygl mewn rhifyn blaenorol gan yr offeiriad Francis Marsden sy’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ond mae’n dweud na chafodd y diwrnod sylw ym mhlwyf Southwark, ac nad oes sôn amdano mewn llenyddiaeth yno nac yn Eglwys Gadeiriol Westminster.

Mae hynny, meddai, “yn groes i San Padrig, sy’n flaenllaw yn y ddwy, fel y mae Sant Andrew”, ac mae’n dweud bod hynny’n “anfoesol”.

“Yn Llundain, mae mwy o Gatholigion Gwyddelig, yn sicr, ac efallai mwy o rai Albanaidd na Chatholigion Cymreig, ond does bosib y dylai’r nawddsaint gael eu hanrhydeddu’n gyfartal?

“Ymhellach, roedd Dewi Sant, yn unigryw i’r pedwar, yn frodor a heb fynd i ffraeo ynghylch pwy oedd yn fwy sanctaidd na’r llall, dw i wedi cael y cyngor ‘Gwnewch y pethau bychain’ yn well gyngor ysbrydol nag unrhyw beth arall gan y tri arall sydd wedi dod i’m rhan.”

Y Gymraeg

Wrth ganmol gwaith Eglwys Gadeiriol Westminster a’r pethau y mae’n eu “gwneud mewn modd ardderchog”, dydy hi “ddim yn driw i’r honiad wrth y fynedfa” o fod yn “Fam Eglwys y gymuned o Gatholigion Rhufeinig yng Nghymru a Lloegr”.

Dywedodd pe bai’n Gymro y byddai’n “teimlo’n eilradd” fel ymwelydd â’r Eglwys Gadeiriol.

“Am ryw reswm, mae gan yr Eglwys Gadeiriol gapeli i Sant Andrew a San Padrig, ond nid i Ddewi Sant.

“Mae gan yr Alban ac Iwerddon eu barnwriaethau eglwysig eu hunain; nid oes gan Gymru hynny ac fe ddylai fod ganddi fwy na’r murlun hardd ond diweddar iawn o Ddewi Sant. Mae angen cywiro’r diffyg hwn.”

Awgrymiadau

Yn ei lythyr, mae Michael Elmer yn cynnig cyfres o awgrymiadau i geisio gwella’r sefyllfa, a’r rhain yn cynnwys:

  • arwyddion sy’n gyfan gwbl ddwyieithog yn cynnig gwybodaeth am Ddewi Sant
  • sicrhau bod y llyfr ymwelwyr ar gael yn Gymraeg er mwyn sicrhau “cydraddoldeb”
  • erthygl yng nghylchgrawn yr Eglwys ar thema Gymreig bob mis Mawrth
  • Offeren yn Gymraeg ar thema Dewi Sant

Eglurhad

Wrth egluro’r ymgyrch wrth golwg360, dywedodd Michael Elmer: “Mae ein gweithgarwch yn dilyn llythyr anfonais i at y Catholic Times yn beirniadu’r diffyg sylw i Ddewi Sant yn gyffredinol a chan Eglwys Gadeiriol Westminster yn benodol.

“Dywedais i hefyd nad o’n i’n credu bod y Cymry’n cael chwarae teg yn yr Eglwys Gadeiriol ac wedi tynnu sylw at ddiffyg cyfeirlyfr Cymraeg.

“Dw i’n cofio mynd i Chubut a chael taith o’r Amgueddfa yn y Gaiman gan Miss Tegai Roberts a mynd wedyn i’r capel a chanu ‘Calon Lan’ a bwyta bara brith.

“Ar nodyn ieithyddol, dw i’n credu bod pob iaith yn arbennig ac yn haeddu parch mawr felly pan o’n i ym Molifia, fe wnes i ddysgu Aymara, mamiaith yr arlywydd presennol, a fi yw sylfaenydd a chadeirydd cyntaf Cymdeithas Eingl-Folifia. Mae gyda ni un Cymro, dyn o Gaerdydd.”