Mae Dafydd Iwan wedi dweud yn ystod dathliad hwyr Gŵyl Ddewi ei fod yn rhagweld y bydd tafarnau’n gweithredu fel capeli yn y dyfodol.

Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch cynulleidfa yn Nhafarn Sinc yn Sir Benfro.

Cafodd dathliad Gŵyl Ddewi cyntaf Tafarn Sinc, o dan berchnogaeth newydd, ei gynnal nos Wener – wythnos yn hwyr o ganlyniad i’r tywydd.

Roedd y mwyafrif o bobol yno’n gyfranddalwyr ac roedd rhai o’r bwytawyr wedi teithio o lefydd mor bell â Llanelli, Llanfair-ym-muallt a Colorado yn yr Unol Daleithiau.

Yn unol â’r bwriad o gefnogi busnesau lleol, busnesau lleol oedd wedi darparu’r cynhwysion ar gyfer y cawl – a’r rheiny’n cynnwys Cig Lodor, Caws Pantmawr a Phopty Rhydwen.

Cau tafarnau a chapeli

Rhybuddiodd Dafydd Iwan fod tafarnau a chapeli yng nghefn gwlad yn wynebu trafferthion, ac y gellid defnyddio tafarnau fel capeli wrth iddyn nhw gael eu cymryd drosodd fel mentrau cymunedol – fel yn achos Tafarn Sinc.

Dywedodd yn ei anerchiad: “Wrth i mi deithio i lawr o Gaernarfon euthum heibio nifer o dafarnau oedd wedi’u gorfodi i gau gan landlordiaid yn codi rhenti ymhell y tu hwnt i allu tenantiaid i wneud bywoliaeth.

“Ar yr un pryd, euthum heibio capeli oedd wedi cau a dwi’n teimlo’n aml fod pencadlysoedd yr enwadau yn poeni mwy am gael yr arian o werthiant yr adeiladau nag ydyn nhw am ryddhau’r  adeiladau i gynulleidfaoedd lleol a fyddai o bosib yn medru defnyddio eu hegni eu hunain i greu bywyd o’r newydd.”

Wrth ganmol y fenter yn Nhafarn Sinc, awgrymodd y gallai mentrau tebyg yng Nghymru ystyried cyfuno anghenion eu capeli yn eu cynlluniau ar gyfer tafarnau cymunedol.

“Mae yna rai cymunedau eisoes wedi gwneud eu neuaddau yn ganolfannau cynhwysol go iawn ac ar y Sul fe ddodir y Groes yn ganolog er mwyn cynnal oedfa grefyddol. Mae’n un ffordd y gall ardaloedd gwledig ddiogelu rhai o’u traddodiadau. Rhaid dangos menter yn lleol.”