Mae llythyr sy’n annog pobol i “gosbi Mwslimiaid” wedi cyrraedd Caerdydd a nifer o ddinasoedd eraill yng ngwledydd Prydain.

Mae’r llythyr yn cynnwys rhestr o weithredoedd treisgar y dylid eu cyflawni ar Fwslimiaid, ynghyd â chyngor ynghylch sut i’w cyflawni nhw.

Mae ymgyrchwyr ac Aelodau Seneddol wedi mynegi pryder am y llythyr, a’r heddlu’n trin yr achosion fel troseddau casineb.

Mae lle i gredu bod pobol yng Nghaerdydd, Bradford, Llundain, Sheffield a Chaerlŷr wedi derbyn y llythyr.