Mae Sir Fynwy wedi cael ei dewis yn un o chwe ardal ledled Prydain ar gyfer arbrofi’r defnydd o dechnoleg 5G i wella cysylltiadau gwledig.

Mae’r prosiectau’n rhan o Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Prydain, a’u bwriad yw arwain y ffordd at gyflwyno 5G drwy wledydd Prydain.

Fe fydd pob un o’r chwe ardal yn derbyn rhwng £2 filiwn a £5 miliwn mewn grantiau llywodraeth i archwilio technolegau cyfathrebu symudol ‘pumed cenhedlaeth’ a all gyrraedd cyflymder rhyngrwyd o fwy na gigabit yr eiliad.

Fe fydd yr arbrofion yn cynnwys defnyddio drôns ar gyfer ffermio, defnyddio’r rhyngrwyd i wella gofal iechyd yn y cartref, a ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar geir di-yrwyr yn y dyfodol.

‘Arloesol’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft arall o sut mae Strategaeth Ddigidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni pethau ym mhob cornel o Gymru.

“Fe fydd y prosiectau hyn yn trawsnewid ein cymunedau mwyaf gwledig, yn archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio 5G i ddatblygu’r diwydiannau twristiaeth ac amaethyddiaeth, sy’n hanfodol bwysig i economi Cymru.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith cyfathrebu o safon er mwyn hybu effeithiolrwydd busnesau lleol, fel y gall pawb ddal i fyny â’r trawsnewid digidol sy’n digwydd ym Mhrydain.”