Parhau mae’r gwaith o lanhau traethau ar hyd gogledd-orllewin Môn y penwythnos yma, ar ôl i ddifrod storm ym marina Caergybi arwain at lygru ardal eang.

Mae Cyngor Môn yn anfon staff a cherbydau ychwanegol i’r traethau wrth ddwysáu ei ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol.

Ar ôl i Storm Emma ddinistrio’r marina ym mhorthladd Caergybi ddechrau’r wythnos, roedd pentyrrau sylweddol o polystyren o’r pontŵns wedi dianc allan i’r môr, ac sydd bellach yn cael ei olchi ar y traethau.

“Ein prif flaenoriaeth yw gwarchod arfordir hardd yr ynys, ei thraethau a’i bywyd gwyllt rhag y llygredd polystyren yma,” meddai Gwynne Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Sir, sy’n rheoli gwaith ymateb y Cyngor.

Mae’n rhybuddio y gall y gwaith o gasglu’r darnau llai barhau am wythnosau os nad misoedd.

“Mae cannoedd o filoedd o ddarnau mân yn dod i mewn gyda’r llanw – ac mae’n glir y bydd y digwyddiad yma’n her sylweddol i’r awdurdod,” meddai, gan ddiolch i wirfoddolwyr lleol sydd wedi helpu yn y gwaith o lanhau traethau.