Mae Comisiynydd Heddlu o Gymru yn cefnogi pasio cyfraith newydd fyddai yn gwneud ymosod ar gŵn heddlu yn drosedd.

Heddiw mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi datgan ei gefnogaeth i’r Bil Anifeiliaid Gwaith (Troseddau) arfaethedig fydd yn cael ei drafod yn San Steffan.

 “Mae ein hanifeiliaid heddlu yn wynebu’r un peryglon â’n swyddogion ar y rheng flaen, bob dydd, er mwyn amddiffyn ein staff a dinasyddion,” meddai Jeff Cuthbert yn ei lythyr at Lywodraeth Prydain.

“Maen nhw’n aelodau gwerthfawr o deulu’r heddlu ac felly dylai eu lles fod yn hollbwysig.”

Mae’r ddeddf bosib sydd dan sylw yn cael ei hadnabod fel ‘Cyfraith Finn’, a hynny wedi i gi heddlu o’r enw Finn gael ei anafu tra ar ddyletswydd yn Swydd Hertford yn 2016.

Bu bron i Finn farw ar ôl cael ei drywanu yn ei ben a’i frest wrth redeg ar ôl lleidr honedig.

Yn dilyn y digwyddiad, cyflwynodd ymgyrchwyr e-ddeiseb lwyddiannus, gyda dros 127,000 o lofnodion arni, gan sbarduno trafodaeth yn y Senedd yn Llundain.

Mae’r Bil Anifeiliaid Gwaith (Troseddau) i fod i dderbyn ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener nesaf.