Fore Llun nesaf bydd aelodau a chefnogwyr mudiad gwrth-niwclear yn dod at ei gilydd i nodi bod saith mlynedd ers i ymbelydredd ollwng i’r môr yn Japan.

Bydd aelodau PAWB – Pobol Atal Wylfa B – yn cyfarfod ar ochr Môn o Bont Menai ar ochr i gofio digwyddiad yng ngorsaf Fukushima Daiichi yn 2011 pan ffrwydrodd adweithyddion niwclear.

Mae’r argyfwng yno yn parhau er gwaethaf pob ymdrech gan Lywodraeth Japan i dwyllo pobl fod y sefyllfa yn well, yn ôl mudiad PAWB.

Mae 300 tunnell y dydd o ddŵr ymbelydrol yn dal i lifo trwy’r safle i’r Môr Tawel, a llawer mwy o ddŵr ymbelydrol wedi cael ei storio mewn cannoedd o danciau ar y safle, yn ôl PAWB.