Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhuddo 10 cyflogwr yng Nghymru o dalu i’w gweithwyr gyflogau sy’n llai na’r isafbris cyflog.

Daw hyn wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi enwau 182 o gyflogwyr ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi bod yn talu llai na’r isafbris cyflog i dros 9,000 o weithwyr – a hynny o £1.11 miliwn.

Yng Nghymru, roedd y 10 cyflogwr wedi bod yn talu llai na’r isafbris cyflog i 159 o weithwyr, a hynny o £76,659.

Mae’r rheiny felly wedi derbyn diryw sy’n cyrraedd y cyfanswm o £87,396.

Codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi enwau’r cyflogwyr ar drothwy codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol o £7.50 yr awr i £7.83 – gyda hynny’n digwydd ar Ebrill 1.

Fe fydd y rheiny dan 19 sydd mewn prentisiaethau, a’r rheiny sydd ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaethau, yn manteisio ar gynnydd o 5.7% yn sgil hyn.

“Neges glir i gyflogwyr”

“Mae gan bob gweithiwr yn y Deyrnas Unedig yr hawl i o leiaf isafbris cenedlaethol neu gyflog byw, ac fe fydd Llywodraeth Prydain yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Dyna pam rydym ni wedi cyhoeddi enwi’r cyflogwyr hyn sydd wedi methu â thalu’r isafbris cyfreithlon, gan anfon neges glir i gyflogwyr na fydd y rheiny sy’n cam-drin yr isafbris cyflog yn mynd yn ddi-gosb.”

Y cyflogwyr

Dyma restr o’r cyflogwyr hynny yng Nghymru sydd wedi’u henwi:

 

  • Seashells Cyf
  • Dil Indian Cuisine
  • Davies Security Cyf
  • Oakfield Caravan Park Cyf
  • A1 Care Services Cyf
  • Porth Stores
  • Arcadis Consulting Cyf
  • Bush House Pembroke Cyf
  • Rainbow Brite Cleaning Services Limited
  • com Limited