Mae’r wraig a gafodd ei llofruddio mewn eiddo yn ardal Sanclêr ddydd Mawrth, Mawrth 6, wedi cael ei henwi’n ffurfiol heddiw.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai Fiona Jayne Scourfield, a oedd yn 54 mlwydd oed.
Cynhaliwyd y post mortem, ac mae Crwner EM a’i pherthnasau wedi cael eu hysbysu.
Mae’r ymchwiliad yn parhau yn yr eiddo, ac mae’r bachgen 16 oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau yn nalfa’r heddlu.