Mae cyflwynwraig o Rydaman, sydd bellach yn byw a gweithio yn Llundain, yn credu bod y ddelwedd o’r ‘Fam Gymreig’ yng Nghymru yn “dal yn fyw”.

Gwta blwyddyn ar ôl iddi eni ei phlentyn cyntaf, mewn rhaglen ddogfen ar gyfer S4C a fydd yn cael ei darlledu ar Sul y Mamau (Mawrth 11), fe fydd cyflwynwraig The One Show yn teithio ledled Cymru yn sgwrsio gyda mamau, gan holi sut maen nhw’n ymdopi yn yr oes sydd ohoni.

Ac yn ôl Alex Jones, er ei bod hi wedi siarad gyda nifer o “wahanol famau mewn gwahanol sefyllfaoedd”, mae wedi dod i’r casgliad bod yna un elfen benodol sy’n “gyffredin” rhyngddyn nhw.

“Ar ôl siarad gyda naw o famau i gyd,” meddai’r gyflwynwraig wrth golwg360, “y peth o fi’n meddwl oedd yn gyffredin rhyngddyn nhw i gyd oedd yr ysbryd yma i lwyddo, er gwaetha’ rhwystrau bob dydd, a phroblemau bob dydd…

“Fy nheimlad personol i [ar ôl y rhaglen] oedd fod ysbryd y Fam Gymreig yn dal yn fyw… sef y fenyw yma sy’n gryf, ac er gwaethaf pob dim, sy’n mynd ati i daclo bob diwrnod ar ei ben ac yn dod trwyddi ar ddiwedd y dydd.”

Yr oes wedi newid

Wrth gymharu ei sefyllfa ei hun gydag un ei mam, mae Alex Jones yn dweud bod sefyllfa’r fam yn gyffredinol “wedi newid” yn ystod y ganrif ddiwethaf.

“Dw i’n credu bod sefyllfa mamau dros Brydain Fawr wedi newid i gyd,” meddai eto. “Hynny yw, erbyn hyn mae’r fam yn mynd yn ôl i’r gwaith yn lot gynt ´na beth oedd mam yn ei hamser hi.

“Pan ga’th mam fy chwaer a fi, roedd hi bant am ryw saith mlynedd i gyd, ac o’dd dad yn mynd mas i weithio. Ond erbyn hyn, mae’n rhaid i’r fam fynd yn ôl i’r gwaith.”

Er hyn, mae’n mynnu mai’r un “heriau” sy’n wynebu mamau, waeth beth a fo’r oes.

“Mae ‘na heriau gwahanol yn wynebu pob cenhedlaeth, ond yn y pen-draw, mae’n anodd codi plant ´sdim ots ym mha cenhedlaeth chi’n neud e”.

 

Fe fydd Alex Jones: Y Fam Gymreig yn cael ei darlledu ar Sul y Mamau (Mawrth 11) am 8yh.