Mae cynrychiolydd dau bentref ar gyngor cymuned mwyaf Cymru, wedi ymddiswyddo, gan alw am “newid radical” yn y modd y mae sefydliadau tebyg yn cael eu rhedeg.

Mae Siôn Jones, sy’n cynrychioli Bethel a Seion ar Gyngor Cymuned Llanddeiniolen, o’r farn bod y cyngor cymuned wedi bod “yn erbyn y pentrefi ers y cychwyn” a bod y gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn yn “eithriadol o wan”.

Mae’n tynnu sylw at fethiannau honedig y cyngor o ran cefnogi amryw o gynlluniau yn y pentrefi – o loches bws i gae pêl-droed. Ac fe ddaw ei benderfyniad yn dilyn cyfarfod o’r cyngor nos Fawrth (Mawrth 6).

“Mae hwn yn rhywbeth dw i wedi bod yn meddwl amdano fo am fisoedd,” meddai Sion Jones wrth golwg360. “A neithiwr, mi wnes i gyrraedd y pen.

“Dw i’n meddwl bod yna opsiynau eraill sydd raid i ni ei ystyried ym Methel a Seion, lle fedrwn ni gyflawni mwy dros ein pobol heb fy nghynrychiolaeth yn y cyngor cymuned.”

Nod Siôn Jones yw mynd ati i greu ‘Pwyllgor Cymunedol’ ar gyfer Bethel a Seion, a fydd yn cyfarfod bob mis i drafod materion y ddau bentref.

Cyngor Cymuned i Fethel a Seion?

Does dim cynlluniau i ddatblygu cynlluniau ymhellach ar hyn o bryd, ond mae Siôn Jones yn cyfleu awydd i greu cyngor cymuned ar wahân i Fethel a Seion yn y pen draw.

“Dw i wedi cael y trafodaethau yna o’r blaen efo Bethel,” meddai. “Y teimlad ydi, bod hynna’n gam yn rhy bell ar hyn o bryd.

“Ond dw i’n gobeithio y bydd y cam dw i wedi cymryd bore yma, yn ail-gychwyn y trafodaethau yna.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Llanddeiniolen am ymateb.