Mae cogydd o Fôn, sydd ar fin agor bwyty newydd yn Llundain, yn dweud bod angen i Gymru “ddysgu lot” oddi wrth Wlad y Basg.

Er hyn, mae Tomos Parry, sy’n wreiddiol o Landegfan, ac ar fin agor ei fwyty Cymreig-Basgaidd yn Shoreditch, yn dweud bod gan y ddwy wlad “lot yn gyffredin”.

“Dw i’n gallu gweld lot o gymhariaeth rhwng Gwlad y Basg a Chymru,” meddai wrth golwg360. “Mae gan y ddau culture cryf, ei hiaith eu hunain, ac yn reit agriculturual.

“Ond dw i’n meddwl y gall Cymru ddysgu lot [wrth Wlad y Basg], o’r ffordd mae ganddyn nhw barch i’w traddodiad nhw, a lle maen nhw’n neud lot gyda’r cynhwysion sydd gyda nhw, ac yn ei gadw’n reit syml…”

“Bwydydd reit syml”

Yn ei fwyty, fe fydd Tomos Parry yn defnyddio dull coginio Basgaidd, sef coginio dros bren, a hynny wrth ddarparu cynnyrch o Gymru – gan gynnwys wystrys o Borthaethwy.

Mae’n dweud ei fod wedi dewis y dull hwn oherwydd ei fod yn un “naturiol” iddo, ac yn ffordd “syml” o baratoi’r bwyd.

“Beth sy’n dda [am fwyd yng Ngwlad y Basg] yw ei bod nhw’n coginio bwydydd yn reit syml,” meddai eto.

“Mae bwyd yn edrych yn syml ar y plât, ond mae’r blas yn anhygoel oherwydd y gwaith sydd wedi’i wneud cyn hynny…”

‘Brat’

Mae enw’r bwyty newydd, sef ‘Brat’, yn chwarae’n fwriadol ar y gair arall am ‘ffedog’ yn Gymraeg, a’r hen air Saesneg am y pysgodyn torbwt.

Torbwt yw’r pryd mwyaf cyffredin yng Ngwlad y Basg, ac mae’n cael ei gyflwyno’n gyfan i’w fwyta ar ôl cael ei goginio ar bren.

A dyma Tomos Parry yn esbonio pam mae’r amrywiaeth o ddiwylliannau bwyd yn Sbaen yn apelio ato…

Mi fydd ‘Brat’ yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn, Mawrth 17.