Fe fydd dau drên yn cael eu henwi ar ôl dau o fawrion y byd chwaraeon yng Nghymru heddiw.

Fe fydd trenau’n cael eu henwi i dalu teyrnged i gyn-fewnwr tîm rygbi Cymru, Gareth Edwards, a seren bêl-droed Cymru, John Charles.

Mae’r seremonïau yn rhan o ddigwyddiadau ‘Wythnos Cymru’ yn Llundain.

Bydd Gareth Edwards yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar gyfer y naill seremoni, a theulu’r diweddar John Charles, cyn seren Juventus a Leeds, yn Paddington ar gyfer y llall.

Bydd y seremoni yng Nghaerdydd am 10.30yb cyn i’r trên adael yr orsaf am 10.56yb.

 

Bydd yr ail seremoni yn cael ei chynnal yn Paddington ar ôl i deithwyr adael y trên.