Mae cwest wedi clywed bod marwolaeth dyn o Gaerdydd yn ddirgelwch o hyd.

Diflannodd Glenn Nayler – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Glenn Doyle – ym mis Chwefror 2015, a chafodd ei gorff ei ddarganfod y llynedd ar Dachwedd 26.

Roedd corff y dyn 32 blwydd oed wedi’i ddarganfod chwe milltir o ganol y brifddinas yn Fforest Fawr, ger Castell Coch.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd, bod y corff wedi’i leoli dan gangen coeden gyda belt o’i gwmpas. Methodd y post mortem â sefydlu pam y bu iddo farw.

Hunanladdiad

Wrth siarad â’r llys dywedodd y Crwner, Philip Spinney, bod Glenn Nayler yn siarad “o bryd i’w gilydd” am hunanladdiad, a bod amheuon ei fod yn cam-drin cyffuriau.

“Dw i’n credu bod hi’n ymddangos ei fod wedi lladd ei hun,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Does dim modd gorbwysleisio pa mor anghyraeddadwy oedd lleoliad y corff.

“Dyw’r dystiolaeth ddim yn llwyr ddatgelu sut y bu i’r dyn farw.”