Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw mewn damwain traffig angheuol yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Soultan Al Shammari yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tir char ger gorsaf heddlu ar Heol Casnewydd toc cyn 5yp ddydd Mawrth diwethaf (Mawrth 27).

Roedd Soultan Al Shammari yn dod o Ddinas Kuwait yn y Dwyrain Canol, ac yn astudio ar gyfer gradd meistr yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd yn un o saith o brawd, ac mae ei deulu wedi’i ddisgrifio fel person a oedd yn “angerddol” dros ei astudiaethau, gan ychwanegu y bydd yna “golled ar ei ôl”.

Mae dynes 23 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol ond cyson yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae’r heddlu’n dal i gynnal ymchwiliad i’r ddamwain, ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.