Mae’r heddlu wedi enwi’r ferch a fu farw mewn damwain traffig angheuol ym Morthcawl yn ystod oriau mân dydd Sul (Mawrth 4).

Fe gafodd Eve Lewis, 22 oed, a oedd yn byw yn y dref, ei tharo gan fws mini gwyn wrth iddi gerdded ar hyd ochr y A4106 ym Mhorthcawl rhwng cylchfannau Stryd Ioan a Heol Newton Nottage.

Digwyddodd y ddamwain toc cyn 2yb.

Mae ei theulu’n dweud eu bod nhw wedi “torri eu calonnau” yn dilyn y digwyddiad, a’u bod nhw’n dymuno cael llonydd i “alaru mewn preifatrwydd”.

Mae’r heddlu’n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, ac yn gofyn i unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar y rhif 101.