Nid yw isafswm ar bris alcohol yn “ateb syml” wrth fynd i’r afael â’r niwed mae alcohol yn ei achosi, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Er bod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno isafbris, maen nhw hefyd yn “pryderu” y gall rheoleiddio o’r fath gael effaith negyddol ar yfwyr dibynnol, gan wthio rhai tuag at sylweddau eraill sy’n fwy niweidiol.

Daw hyn ar ôl i ddefnyddwyr canolfan adfer alcohol ddweud wrth y Pwyllgor na fyddai prisiau uwch o reidrwydd yn eu rhwystro rhag yfed, ac efallai eu hannog i droi at ddewisiadau eraill.

Er hyn, mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod yr isafbris ddim wedi’i anelu at y rheiny sy’n gaeth i alcohol yn barod, ond yn hytrach tuag at y rheiny sy’n yfwyr peryglus a niweidiol ac yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell

“Rhai pryderon”

“Mae gennym rai pryderon ynghylch canlyniadau anfwriadol, gan gynnwys y posibilrwydd o yrru yfwyr trwm tuag at ymddygiadau eraill sy’n effeithio’n negyddol ar eu hiechyd, gan gynnwys dargyfeirio arian oddi wrth fwyd er mwyn prynu alcohol neu amnewid alcohol am sylweddau anghyfreithlon, heb eu rheoleiddio,” meddai Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Nid ydym wedi ein hargyhoeddi chwaith gan safbwynt Llywodraeth Cymru na fydd y Bil hwn yn effeithio ar yfwyr trwm ac alcoholigion.

“Rydym yn ystyried y Bil hwn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd eu hangen i leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.”

Yr isafbris

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno isafbris o 50c ar bob uned o alcohol.

Yn ôl adroddiad adroddiad a gafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru’n ddiweddar gan Grŵp Ymchwil Alcohol ym Mhrifysgol Sheffield, mae poblogaeth Cymru’n prynu 50% o’u halcohol am lai na 55c yr uned.

Roedd hefyd yn dangos bod tri chwarter o’r holl alcohol yng Nghymru’n cael ei yfed gan y 22% o oedolion sy’n yfwyr peryglus a niweidiol.