Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw’n trin tân yn hen Wyrcws Caerfyrddin ddiwedd yr wythnos ddiwethaf fel un “amheus”.

Yn ôl yr heddlu, fe ddigwyddodd y tân am 4:50yh ddydd Gwener ddiwethaf (Mawrth 2), a hynny yn adeilad yr hen wyrcws ar Heol Penlan yn y dref.

Yn dilyn y digwyddiad, fe gafodd dau berson ifanc eu holi, ond maen nhw erbyn hyn wedi’u “rhyddhau dan ymchwiliad”.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn sgil y tân, ac mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad ar y mater.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.

Adeilad hanesyddol

Mae’r safle ei hun yn dyddio’n ôl i Oes Fictoria, lle’r oedd yn dloty i’r rhai anghenus mewn cymdeithas.

Yn 1843, roedd yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca, pan wnaeth grŵp o ffermwyr lleol ymosod arno.

Yn ddiweddarach, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd i’r cyngor sir, elusennau a’r BBC, a hynny cyn iddo gael ei drosglwyddo i ddwylo preifat.