Adroddiad ar berfformiad y diwydiant llaeth

 

Lesley Griffiths

Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru CC 2.0

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n dangos sut y gall ffermwyr llaeth wella eu busnes a pharatoi ar gyfer y cyfnod wedi Brexit.

Yn 2017, fe roddodd Llywodraeth Cymru £3.2 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd i ffermwyr llaeth yng Nghymru, a hynny trwy gyfrwng dau gynllun a oedd yn canolbwyntio ar gofnodi perfformiad busnesau llaeth.

Yn cyd-fynd â’r cymorth ariannol hwn, roedd y ffermwyr hefyd yn derbyn adroddiad a oedd yn dangos cryfderau a gwendidau eu busnes nhw’n benodol o’i gymharu â ffermydd busnes eraill.

Mae’r data hwn wedyn wedi cael ei ddefnyddio i lunio adroddiad sy’n rhoi cipolwg ar berfformiad ffermydd llaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

Angen “paratoi’n iawn” cyn Brexit

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mi fydd yr adroddiad hwn yn helpu ffermwyr i “wella perfformiad eu busnes” trwy leihau costau cynhyrchu, gan sicrhau yn y pendraw bod ffermydd llaeth yn “fwy effeithlon”.

Mae’n ychwanegu y bydd yr adroddiad hwn hefyd yn gymorth i’r diwydiant amaeth “baratoi’n iawn” ar gyfer Brexit.

“Dw i’n annog pob ffermwr godro yng Nghymru a’r diwydiant yn ehangach i ddefnyddio’r data sydd ar gael i’w helpu i baratoi ar gyfer y byd wedi Brexit, ac i helpu i sicrhau y gall eu busnesau wrthsefyll unrhyw beth a bod yn llewyrchus,” meddai Lesley Griffiths.

Yr adroddiad

Ymhlith y prif bwyntiau sy’n cael eu cyflwyno yn yr adroddiad mae:

  • Pa mor bwysig yw hi fod ffermwyr yn mynd ati’n rheolaidd i fesur perfformiad eu busnes;
  • Mae’r ffermydd sy’n perfformio orau yn dangos bod modd gwneud elw pan fo prisiau llaeth yn isel;
  • Mae costau cynhyrchu mewn rhai ffermydd yn fwy na’r pris llaeth uchaf erioed;
  • Dylai ffermwyr sicrhau digonedd o borfa er mwyn cynhyrchu mwy o laeth;
  • Angen sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid er mwyn lleihau effaith ariannol clefydau.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?