Mae Heddlu’r De bellach wedi dod o hyd i ddynes 19 oed o Abertawe, a ddiflannodd wythnos diwethaf.

Nid oedd Lucy Duncan, o Horton ym Mhenrhyn Gŵyr,  wedi cael ei gweld ers dydd Iau (Mawrth 1) diwethaf pan darodd Storm Emma.

Cafodd ei gweld yn gadael ei thŷ yn ei char y bore hwnnw, ac roedd Heddlu De Cymru yn credu y gallai fod wedi cyrraedd ardal Rochdale, Lloegr.

Pryder yr heddlu oedd bod ei diflaniad yn gysylltiedig â’r tywydd, ond bellach maen nhw wedi cadarnhau nad dyna oedd y sefyllfa.