Mae’r Loteri Genedlaethol wedi dethol pump o bobol er mwyn ei helpu i benderfynu sut y dylai arian y Gronfa Loteri Fawr gael ei fuddsoddi mewn gwella bywydau pobol ledled Cymru.

Nod y Gronfa Loteri Fawr yw cefnogi dyheadau pobol sydd am wella bywyd yn eu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac eisoes mae wedi buddsoddi £650miliwn bob blwyddyn mewn prosiectau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac elusennol.

Ac ymhlith y rhai a fydd yn ymuno â Phwyllgor Cymru’r Gronfa Loteri Fawr fydd Helen Wilkinson o Sir Ddinbych a Nicola Russel-Brooks o Abertawe.

Mae Helen Wilkinson ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Sir Ddinbych, tra bo Nicola Russell-Brooks yn rhedeg microfusnes yng Ngorllewin Cymru sy’n cefnogi pobol hŷn i gynnal eu hannibyniaeth

“helpu pobl yng Nghymru”

Yn ôl Nicola Russell-Brooks, mae cael ei phenodi i Bwyllgor Cymru yn “anrhydedd mawr iddi”.

“Rwy’n edrych ymlaen at helpu pobl yng Nghymru i ddefnyddio’r grantiau sydd ar gael iddynt i ddatblygu gwasanaethau a fydd yn creu canlyniadau go iawn ar eu cyfer ac yn adeiladu ar eu cryfderau,” meddai.

Mae Helen Wilkinson wedyn yn dweud bod ganddi “edmygedd a pharch mawr” at waith y Gronfa Loteri Fawr a’r unigolion a’r sefydliadau hynny sy’n elwa o’u grantiau.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at weledigaeth y sefydliad o Alluogi Pobl i Arwain a gweithredu fel llysgennad dros waith y Gronfa yng Nghymru er mwyn amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan fudiadau a grwpiau cymunedol, a gwneud popeth y gallaf i ledaenu’r neges am bwysigrwydd y Loteri Genedlaethol i gymunedau ar draws Cymru.”

Cynrychiolwyr eraill

Yn ogystal â hyn, unigolion sy’n ymuno â’r pwyllgor, ‘Pawb o’i Le’, sy’n chwarae rhan fawr wrth benderfynu sut caiff arian grantiau eu cyflwyno, fydd:

  • Ceri Pritchard, sylfaenydd y cwmni Resoflen Building Blocks yng Nghastell-nedd;
  • Dylan Gallanders, myfyriwr ym Mhrif ysgol Caerfaddon a Llysgennad Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol;

Ela Fôn William o Gyngor Conwy.