Mae Dŵr Cymru yn parhau i geisio adfer cyflenwad dŵr i tua 4,500 o adeiladau pryhawn ma wrth i brif bibellau dŵr fyrstio, a galw mwy nag arfer am ddŵr.

Yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf yw Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd, Pencader yn Sir Gaerfyrddin,  Post Mawr, Llandysul a Thalgarreg yng Ngheredigion, Treletert yn Sir Benfro, Abertyleri ym Mlaenau Gwent, a Chwm Clydach yn Rhondda Cynon Taf.

Dywed Dŵr Cymru eu bod yn blaenoriaethu cwsmeriaid bregus yn yr ardaloedd hyn ac yn trefnu gorsafoedd dosbarthu dŵr potel i gynorthwyo eu cwsmeriaid.

Maen nhw’n gofyn i gwsmeriaid helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr hefyd trwy beidio â gadael tapiau – mewnol nac allanol – yn rhedeg, a thrwy roi gwybod i’r cwmni’n syth am unrhyw ollyngiadau neu broblemau eraill y maen nhw’n eu gweld gyda’r pibellau ar y ffyrdd a’r priffyrdd.

Maen nhw’n gobeithio adfer y cyflenwad mewn rhai ardaloedd erbyn heno a’u bod yn dal i wynebu “heriau digynsail ar draws [eu] rhwydwaith”.

Cau ysgol

Mae problemau gyda chyflenwad dŵr yn sgil tywydd oer y diwrnodau diwethaf hefyd wedi golygu bod rhai ysgolion wedi gorfod cau am y trydydd diwrnod yn olynol.

Er i Ysgol Bro Teifi yn Llandysul ailagor ei drysau i ddisgyblion a staff y bore yma (dydd Llun, Mawrth 5), bu raid iddyn nhw benderfynu cau eto ar ôl cael rhybudd bod yna brinder cyflenwad dŵr yn yr ardal.

Daw hyn ar ôl i’r ysgol fod ynghau ddydd Iau a Gwener yr wythnos ddiwethaf, wrth i eira a rhew achosi trafferthion mewn rhannau helaeth o Gymru.

Mae dros 120 o ysgolion – yn bennaf yn Nhorfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili – wedi aros ynghau oherwydd eira a rhew.

Problemau Ysgol Bro Teifi

Yn ôl dirprwy bennaeth yr ysgol, Gareth Evans, er bod tanciau dŵr ar safle’r ysgol, does “dim sicrwydd” y bydd cyflenwad y rheiny’n gallu para am “y diwrnod cyfan”.

“Dyw hwn ddim yn rhywbeth ry’n ni’n dymuno ei wneud, yn enwedig ar ôl gorfod cau wythnos ddiwethaf,” meddai Gareth Evans. “Ond gallwn ni ddim fod heb doiledau a chyfyngiadau dŵr yn y ffreutur.”

Mae’n ychwanegu y bydd asesiad o’r sefyllfa’n cael ei wneud am 12:30yp heddiw, a’i bod nhw’n “gobeithio” ailagor yfory.

“Diolch i staff ymroddedig”

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething wedi diolch i staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG), y gwasanaethau brys a’r gwasanaethau cymdeithasol wrth iddyn nhw barhau i ddygymod ag effeithiau storm Emma.

Dywedodd Vaughan Gething: “Hoffwn i ddiolch o galon i’r holl staff ymroddedig sydd wedi bod yn cynnal ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y diwrnodau diwethaf. Fe gefais fy rhyfeddu wrth eu gweld yn dal ati, mor benderfynol, i sicrhau bod ein hysbytai a’n gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, ynghyd â gwasanaethau hanfodol eraill, yn medru parhau i weithredu er gwaetha’r pwysau o bob cyfeiriad.

“Hoffwn i hefyd ddiolch i’r holl weithwyr llywodraeth leol a oedd wedi sicrhau fod y ffyrdd wedi eu cadw’n glir, a’r gwirfoddolwyr a fu’n cludo staff i’r gwaith ac yn ôl, neu’r rhai a wnaeth unrhyw beth o fewn eu gallu i helpu mewn amodau mor anodd. Hebddynt, byddai mwy fyth o bwysau wedi bod ar y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys eraill.”