Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus yn dilyn yr eira yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Cyngor, roedden nhw wedi graeanu’r ffyrdd gyda gwerth 500 tunnell o halen ers dydd Llun diwethaf – a 450 tunnell dros y tridiau diwethaf.
Ar gyfartaledd, 2000 tunnell yw’r cyfanswm ar gyfer gaeaf cyfan.
Mae’r Cyngor yn dweud bod yr halen yn llai effeithiol po hwyaf y mae’r eira’n parhau i gwympo, sy’n golygu bod perygl i deithwyr a cherddwyr o hyd.
Mae rhai o brif ffyrdd y brifddinas ar agor bellach, ac mae’r Cyngor yn parhau i agor y ffyrdd eraill wrth i’r tywydd wella.
Maen nhw’n rhybuddio am beryglon “rhew du” dros y dyddiau nesaf, ac mae rhybudd i gerddwyr fod yn ofalus.
Sbwriel
Doedd dim modd casglu’r sbwriel ddydd Iau na dydd Gwener, gan fod timau wedi’u galw i geisio helpu ar y ffyrdd.
Mae’r Cyngor yn blaenoriaethu casglu sbwriel cyffredinol, sbwriel oddi ar y ffyrdd a chasgliadau hylendid. Fydd sbwriel o’r ardd ddim yn cael ei gasglu’r wythnos hon.
Fe fydd y casgliadau a gafodd eu canslo ddydd Iau a dydd Gwener yn mynd yn eu blaen ddydd Llun a dydd Mawrth, ac eithrio sbwriel o’r ardd.
Fe fydd casgliadau’n dychwelyd i’w trefn arferol rhwng dydd Llun a dydd Mercher, ond fydd bagiau gwyrdd ddim yn cael eu casglu’r wythnos hon.
Ysgolion
Fe fydd y Cyngor yn cyhoeddi heddiw a fydd ysgolion ynghau ddydd Llun.
Bydd ysgolion yn gwybod i rieni os ydyn nhw’n bwriadu cau.
Llifogydd
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth am lifogydd posib yn y brifddinas.
Dylai pawb fod yn wyliadwrus rhag ofn bod cwteri a phalmentydd wedi rhewi neu’n gorlifo wrth i’r eira ddadmer.