Mae rhybudd i deithwyr yng Ngheredigion na ddylid teithio oni bai bod gwir angen mewn rhan o’r sir.
Mae’r A4120 rhwng Pisgah a Phontarfynach ar agor unwaith eto, ond “gyda gofal mawr iawn”, meddai’r Cyngor Sir, sy’n “dal i gynghori yn erbyn teithio heblaw am deithio sy’n hollbwysig”.
Neges bellach y Cyngor Sir yw y “dylid osgoi pob teithio diangen”, gan ychwanegu fod unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyngor hwnnw’n “rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl diangen”.