Parhau mae’r anghydfod ym mhrifysgolion Cymru wrth i staff baratoi at gychwyn ar drydedd wythnos o weithredu diwydiannol.

Mae’r darlithwyr a staff proffesiynol eraill sy’n aelodau o undeb UCU yn gweithredu fel rhan o streic ledled Prydain yn erbyn newidiadau i’w cynllun pensiwn, a fydd, yn ôl amcangyfrifon, yn achosi cwymp sylweddol yng ngwerth eu pensiwn, yn enwedig i aelodau iau.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae mil o weithwyr ar streic, fe fydd aelodau undeb yr UCU yn treulio bore Llun yn picedu, ac wedyn yn dadlau eu hachos gerbron Is-gangellor a Phrif Swyddog Ariannol y Brifysgol mewn sesiwn hawl i holi.

Yr un pryd, fe fydd staff o Brifysgol Bangor hefyd yn cynnal Rali Pensiynau fel rhan o’u gweithgareddau.

Fe fydd y staff sydd ar streic a chefnogwyr yn gorymdeithio o Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, gan adael am 12.00 ddydd Llun a cherdded tuag at Gloc y Dref, lle y bydd Llŷr Gruffydd AC a chynrychiolwyr o’r undebau yn annerch y Rali.

Meddai Penny Dowdney, Llywydd Cangen UCU Bangor ar ran y staff sydd ar streic:

“Rydym yn falch bod y Prifysgolion a’r Undeb bellach yn cyfarfod gyda’r gwasanaeth cymodi, ACAS, i geisio dod â’r anghydfod sydd yn effeithio ar 61 o brifysgolion, i ben.

“Doedden ni ddim yn awyddus i streicio, ond yn teimlo nad oedd dewis arall ar gael yn wyneb y toriadau niweidiol i bensiynau, a fyddai nid yn unig yn niweidio’n incwm wedi ymddeol, ond hefyd yn gwneud gyrfa mewn academia’n llai deniadol i’r bobol fwyaf talentog.”

Mae’r Undeb hefyd wedi penderfynu codi arian ac adnoddau ar gyfer pobl ddigartref yn ardal Bangor. Maen nhw wedi sefydlu tudalen codi arian (<https://www.justgiving.com/crowdfunding/bucu-homeless?utm_id=1&utm_term=583RZ36VD> ) ac yn annog pobol i gyfrannu cotiau glaw, esgidiau trymion,  sachau cysgu a thebyg i Hostel y Santes Fair ar waelod Lôn y Cariadon ym Mangor.